Dydd Iau yma (Hydref 6ed) am 2.30 y pnawn, bydd Dafydd Iwan a Hefin Elis yn Galeri, Caernarfon (Rhif ffon 01286.685250)
TAITH 40 AR LOG
Mae'r daith yn tynnu at ei therfyn, a bydd Ar Log a minnau yn Gelli Fawr, Cwm Gweun, Sir Benfro Nos Wener yma (Hydref 7fed), ac yn Neuadd Mynydd-y-Garreg Nos Sadwrn, (Hydref 8fed)
-----------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------777777777777777777777777777777777777777777777777777777777777777777777777777777777777777777777777777777777777----------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------
LLYFR NEWYDD DAFYDD IWAN YN EICH SIOPAU YN AWR: "POBOL"
MAE'R LLYFR NEWYDD AR GAEL YN Y SIOPAU YN AWR!
"POBOL "
Dafydd Iwan
£9.99
Beth ofynnodd yr agent provocateur i Dafydd? Sut gafodd o fynediad i barti i weld Cynan? Sut un oedd T.H.Parry-Williams am ddeud jocs? A be ddwedodd Waldo pan gynigiodd Dafydd gopi o’r LOL cyntaf iddo? A beth wnaeth i Gwyn Erfyl wasgu pen-glin ei westai ar “Y Dydd”?
Mae’r atebion i gyd yn llyfr newydd “POBOL Dafydd Iwan”
Beth sydd gan Cayo Evans yr FWA a Lady Amy, Orig Williams a Nansi Richards, Quintin Hogg a Lwi Aberdyfs yn gyffredin? Maen nhw i gyd yn llyfr newydd Dafydd Iwan.
Yr enwog a’r lleol, y mawrion a’r mwy, y werin a’r crach – maen nhw i gyd yma! Y llyfr sy’n anrheg delfrydol i bawb o bob oed: POBOL D.I.
"Pobol yw pobol" medd Dafydd Iwan, "Y peth casa gen i yw'r syniad fod rhai pobol yn bwysicach nag eraill oherwydd pwy yden nhw, neu beth yw eu swydd, neu faint o arian neu bwer sydd gyda nhw. Yn y llyfr hwn, yr unig beth sy'n gyffredin rhwng y gwrthrychau yw eu bod i gyd wedi'n gadael, a mod i wedi nabod rhai fel cyfeillion, ac wedi digwydd cwrdd y gweddill ar y daith, a'u bod i gyd yn ddiddorol am wahanol resymau. Gobeithio y cewch chi flas ar y darllen".
Ffeithiau am Dafydd:
Fe'i ganwyd ar Awst 24ain, 1943, yn ail fab i'r diweddar Barchedig Gerallt Jones ac Elizabeth Jones. Mae ganddo dri brawd:
Arthur Morus ac Alun Ffred a'r diweddar Huw Ceredig. Fe'i ganwyd ym Mrynaman, a bu'n byw yn Llanuwchllyn, Gwyddgrug (Pencader),
Caerdydd a Phenarth cyn symud i Lanystumdwy a'r Waunfawr cyn setlo yn ei gartref presennol yn Rhos-bach, Caeathro, ger
Caernarfon, lle mae'n byw gyda Bethan ers 1988.
Yn briod a Bethan sy'n enedigol o Garnfadryn, mae ganddyn nhw ddau fab: Caio (24 oed) , a fu'n newyddiadurwr ar bapur y South Wales Argus cyn mynd yn rhan o dim Cymru Fyw y BBC, a Celt (22 oed), sydd wedi graddio o Brifysgol Aberystwyth mewn Rheolaeth Busnes, ac sy'n gweithio fel dylunydd graffig gyda S4C.
Plant o'i briodas gyntaf: Llion, Elliw a Telor. Mae Llion yn awdur, cynhyrchydd teledu a ffilm, ac yn Gomisiynydd rhaglenni Ffeithiol a Dogfen i S4C. Dyfarnwyd gradd Doethuriaeth i Llion am ymchwil ar y ffilm ddogfen. Mae Elliw yn Swyddog Cangen y Coleg Cenedlaethol Cymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd, a Telor yn ohebydd a chynhyrchydd newyddion i BBC Cymru.